Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (136)v5 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
|
2 Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
|
3 Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) - GOHIRIWYD
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl ac fe’u trafodir yn ôl y grwpiau a ganlyn:
1. Gofal Lliniarol 4
2. Gwasanaethau a eithrir 5, 6, 10
3. Y cyfnod amser ar gyfer adennill costau 7
4. Apelau a hawlildiadau 1, 2, 3
5. Pŵer i atal y Ddeddf dros dro 8, 9
Dogfennau ategol: Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) |
4 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) - GOHIRIWYD
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir y cynnig:
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) |
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5257 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r cyfle a roddir gan Ddiwrnod y Lluoedd Arfog i ddiolch i bawb sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd a'r cymorth a roddwyd iddynt gan bobl Cymru.
2. Yn cydnabod cyfraniad gweithwyr nad ydynt yn rhai milwrol i ymdrechion rhyfel olynol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynorthwyo gwasanaethau sydd wedi'u cyfeirio at gyn-filwyr ac ystyried cyflwyno Cynllun Cerdyn y Lluoedd Arfog, i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog, i gyd-fynd â digwyddiadau sy'n coffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chomisiwn y Cynulliad i ddatblygu a chyhoeddi rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau coffaol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried gweithio gyda’r lluoedd arfog a phartneriaid eraill i sefydlu Amgueddfa Filwrol Genedlaethol i Gymru i goffáu'r dreftadaeth gyfoethog o aberth, dewrder a gwasanaeth personél milwrol a sifiliaid o Gymru, a phawb sydd wedi gwasanaethu eu gwlad ar adegau o wrthdaro arfog.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 3, dileu popeth ar ôl ‘gwasanaethau sydd wedi’u cyfeirio at gyn-filwyr’.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:
‘ac i gydweithio â phartïon cyfrannog i lunio pabi coch Cymreig i goffáu yn benodol y nifer fawr o filwyr o Gymru a fu farw rhwng 1914 a 1918’
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 5.
[Os derbynnir gwelliant 3, bydd gwelliant 4 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 5 dileu ‘sefydlu Amgueddfa Filwrol Genedlaethol i Gymru i’ a rhoi yn ei le ‘ystyried y ffyrdd mwyaf priodol o’
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar y cyd i wella’r driniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma ymhlith cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog drwy ystyried y potensial i sefydlu Canolfan Driniaeth ar gyfer Anhwylder Straen Wedi Trawma yng Nghymru.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi Adroddiad Murrison sydd wedi arwain at gyllid ychwanegol ar gyfer aelodau prosthetig i gyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yn Lloegr, yn nodi hefyd y gweithgor sydd wedi’i sefydlu ar y pwnc yng Nghymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth yn gydradd yng Nghymru.
Gellir gweld Adroddiad Murrison drwy ddilyn y linc a ganlyn:
https://www.gov.uk/government/publications/a-better-deal-for-military-amputees |
6 Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5256 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu bod angen i gymunedau Cymru gael gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi'u harwain gan ymgynghorwyr mewn ysbytai cyffredinol dosbarth lleol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn gresynu bod y toriadau cyllidebol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gwneud i gyllid y GIG, sef y toriadau dwysaf o blith gwledydd y DU, yn cael effaith niweidiol ar allu GIG Cymru i barhau i ddarparu cyfluniad presennol gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr yn ysbytai Cymru.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthod y cynigion sy’n cael eu hystyried ar hyn o bryd gan Raglen De Cymru i israddio gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth wedi’u harwain gan ymgynghorwyr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gyflawni ei ymrwymiad i gadw’r gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Weinidog Iechyd Cymru i sicrhau dyfodol y gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys presennol yn Ysbyty'r Tywysog Philip yn Llanelli.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn os bydd lefelau recriwtio meddygon yn gwella, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canlyniadau ei Hymgyrch Recriwtio Meddygon, a lansiwyd ym mis Ebrill 2012.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y bydd ysbytai cyffredinol dosbarth lleol yn darparu gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys a mamolaeth sy’n gynaliadwy ac yn glinigol gadarn os bydd lefelau staffio nyrsys yn gwella, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i hwyluso lefel sylfaenol. |
Cyfnod Pleidleisio |
7 Dadl Fer (30 munud)
NDM5255 Russell George (Sir Drefaldwyn): A yw'r ateb wir yn chwythu yn y gwynt? Y cymysgedd o ynni adnewyddadwy a'r galw cynyddol am ynni dwr.
Dadl sy'n cwestiynu a oes gan Lywodraeth Cymru y strategaeth ynni adnewyddadwy gywir o ran rhoi gormod o bwyslais ar gynhyrchu ynni drwy wynt ar y tir. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2013